Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 17 Mai 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
12:45 - 15:31 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Angela Burns Jocelyn Davies Keith Davies Suzy Davies Julie Morgan Lynne Neagle Jenny Rathbone Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Simon Fountain-Polley, Bwrdd Iechyd Hywel Dda Dr Brendan Harrington, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Hamish Laing, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Geoff Lang, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Trevor Purt, Bwrdd Iechyd Hywel Dda Paul Roberts, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar wasanaethau newyddenedigol.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu ffigyrau mwy diweddar ar raddfeydd marwolaethau babanod yng nghymuned iechyd gogledd Cymru.
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i baratoi nodyn ar ansawdd a’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig ar gyfer gofal newyddenedigol.
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Betsi Cadwaladr i anfon copi o’r archwiliad diweddaraf a gynhaliwyd ar ei wasanaethau newyddenedigol dibyniaeth isel ledled cymuned iechyd gogledd Cymru.
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu enghreifftiau ac esboniadau o’r pedwar achos cofnodedig o oedi gydag ambiwlansys a oedd yn rhan o’r wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Bydd y Bwrdd hefyd yn darparu, os ydynt ar gael, yr amseroedd teithio disgwyliedig i ambiwlansys o brif ganolfannau gogledd Powys i Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbty Glan Clwyd.
3. Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar wasanaethau newyddenedigol.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda i anfon fersiwn wedi’i diweddaru o gynllun gweithredu gwasanaeth newyddenedigol y Bwrdd.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem a ganlyn ac Eitem 1 yn y cyfarfod ar 23 Mai 2012
4.1 Cytunwyd ar y cynnig.
5. Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a’r meysydd posibl y byddant am holi’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu cylch ar 31 Mai.
Trawsgrifiad